CRYNWYR CYMRAEG
TANYSGRIFIO

CRYNWYR CYMRAEG
PWLLHELI A'R BALA
Mae Cyfarfod Crynwyr yn ardal Pwllheli ers y 1980au, ond bu Crynwyr yn y cylch ers yr 17G.
Ailsefydlwyd cyfarfod Y Bala rhwy ddeng mlynedd yn ôl - mae Penllyn yn ardal bwysig yn hanes Crynwyr Cymru.
Byddwn yn cyd-gyfarfod mewn distawrwydd, ac mae croeso i bawb i ymuno â ni - unwaith i roi cynnig arni, neu'n amlach a bod yn ran o'r cyfarfod clos hwn. Nid enwad yw'r Crynwyr, ond Cymdeithas o unigolion sydd yn cyd-chwilio. Mae'r Crynwyr o gwmpas ers dros 350 mlynedd, ond mae i'w weld yn hynod o gyfoes i ni, yn rhoi gogwydd newydd ar ysbrydolrwydd a chrefydd drwy rannu profiad - a thrwy ofyn cwestiynnau yn hytrach na rhoi atebion.
Mwy am Grynwyr a Chrynwyr Cymru YMA >>
I gysylltu â ni, danfonwch ebost at crynwyrpwllheli@gmail.com
Huw a Rhian

ar hyn o bryd, nid ydym yn cyfarfod wyneb yn wyneb, wrth gwrs, ond mae croeso i chi ymuno yn yr ysbryd ar yr amseroedd yma, gan y byddwn yn neilltuo yn ein mannau ein hunain yn ôl y dull distaw Crynwrol

Pwllheli
Capel Penmownt
LL53 5HU
52.8896, -4.4138
11:30 Sul cyntaf y mis
19:30 trydydd nos Iau y mis


Crynwyr Cymraeg
cyfarfodydd rheolaidd arelin i roi cyfle i Grynwra drwy'r Gymraeg
mwy
19:30 nos iau cyntaf a thrydydd y mis

Llwybrau: sgyrsiau a thrafodaeth, o bryd i'w gilydd wedi anelu at bobl sydd â diddordeb yn y meysydd hynny, neu sydd yn gefnogol i dystiolaeth weithredol wedi'i seilio ar adnabod gwerth yr unigolyn o fewn cymdeithas
materion o bwys gydag apel eang, wedi eu hanelu at bawb, o bob cred ac o ddim
anelwn i gyfarfod drwy un (neu gyfuniad) o'r cyfryngau canlynol:
- wyneb yn wyneb
- ar Zoom
- ar YouTube (+byw)
English
Pwllheli and Bala Quaker Meeting
11:30 first sunday of the month - Pen Mount, Pwllheli
14:00 third sunday of the month - Canolfan Bro Tegid, Bala
19:30 fourth thursday of the month: half hour silent worship and a discussion / conversation (Welsh) - Pen Mount Pwllheli
for Welsh speakers and those learning, we have a regular meeting online : more >>>
all are very welcome (though we conduct our business in Welsh): there are also meetings in Porthmadog, Dolgellau and Bangor
to learn more about Quakers in general, go here : crynwyrcymru.org.uk (being rebuilt currently) or quaker.org.uk
we are not meeting in person at the moment, of course - but keep us in the light at the indicated times - we meet in our own places according to the silent manner of Friends; we meet unplugged, you could say!