CRYNWYR CYMRAEG
TANYSGRIFIO
CRYNWYR CYMRAEG
CRYNWRIAETH / CYMRU
Beth yw'r Crynwyr?
Y FFORDD DAWEL
Ffilm a grewyd ar gyfer S4C yn cyflwyno profiad ambell aelod.
Addoli

Mewn cyfarfod wyneb yn wyneb, mae'r addoli yn dechrau pan fo rhai yn eistedd ac yn ymdawelu. Mae'r addoliad yn ddistaw a does dim wedi ei drefnu ar ei gyfer. Mae'r ymwybyddiaeth o'r ysbrydol yn cynyddu wrth ymdawelu, ac yn amrywio'n sylweddol o berson i berson, yn ôl eu cyflwr a'u profiad. Yn raddol, lleiha'r dwndwr beunyddiol a bydd yr addolwyr yn agored i bresenoldeb ysbrydol oddi mewn. Nid diffyg sŵn yw'r distawrwydd yma ond aros disgwylgar. Fe all y cyfarfod fod yn ddistaw am awr, neu fel all rywun rannu eu profiad. Torrir ar y distawrwydd am ychydig ond nid yw'n cael ei atal.
Daw'r cyfarfod i ben wrth ysgwyd llaw. Peidiwch a diflannu wedi 'r cyfarfod; cyflwynwch eich hun a gofynnwch unrhyw gwestiwn am y profiad.
Yn ein cyfarfod arlein, fe fyddwn yn ymuno a'r cyfarfod yn gynnar am sgwrs ar y cychwyn - cyfarch a chyflwyno, neu holi, neu jest i fod yn gyfeillgar, gan ymdawelu ar ôl ryw hanner awr. Fel arfer byddwn yn rhannu delwedd, gerdd, neu ddyfyniad fel cyfrwng i glosio. Bydd y distawrwydd hyn yn para am ryw hanner awr i dri chwarter, ac wedi hynny byddwn yn rhannu'n profiad sydd yn aml yn arwain at drafodaeth werthfawr, am rwy chwarter awr eto, yn aml ar amrywiaeth o bynciau, cyn gadael.
Y profiad o ymgynull a chyd-gyfarfod yw un o'r nodweddion pwysicaf, a medru gwneud hynny drwy'r Gymraeg yw ein bwriad. Mae croeso mawr i'r sawl sydd yn dysgu'r Gymraeg, wrth gwrs.

Beth yw'r Crynwyr?
Cymdeithas a sefydlwyd yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr, a'r berw cymdeithasol a chrefyddol y pryd hwnnw yn esgor ar nifer o grwpiau eitha chwyldroadol oedd yn awyddus i weld eu bywydau yn dystiolaeth i'w ffydd.
Beth mae'r Crynwyr yn ei gredu?
Dyw'r Crynwyr ddim yn diffinio eu hunain yn ôl eu cred - mae na lygedyn bach o oleuni dwyfol ynddo ni i gyd, ac mae'n dod i'r golwg mewn amryfal ffyrdd - pwy sydd i ddweud fod un dehongliad yn 'gywir' a'r llall ddim?
Beth ydi'r pwynt felly?
Ceisio byw ein bywyd yn driw i'r datguddiad hwnnw o oleuni dwyfol. Mae'r Crynwyr wedi bod yn flaenllaw dros y blynyddoedd mewn mudiadau cymdeithasol, dileu caethwasiaeth, heddychiaeth a chynnal tystiolaeth dros frawdgarwch.
Y BYD
Rhestr o gyfarfodydd rheolaidd arlein ar safle we y FWCC, sef corff cyffredinol y Crynwyr ar draws y byd.
CYMRU
Mae'r cyfarfodydd ar draws Cymru yn rhan o Gyfarfod Crynwyr Cymru sydd yn siarad ar ran Cymru i'r byd, ac ar ran y Crynwyr yng Nghymru.

Dyma fap o gyfarfodydd Cymru a'r Gororau, yn rhoi rhyw syniad o'u gwahanol faint.