trefnir gan Gyfarfod Crynwyr Pwllheli a'r Bala
Mae Crynwyr Cymraeg yn gyfle i gysylltu siaradwyr Cymraeg (a dysgwyr) a'i gilydd, o bedwar ban byd. Mae hwn yn gyfle i bobl sydd yn ei chael hi'n anodd i fynychu cyfarfod, neu sydd eisiau cyfle i Grynwra yn Gymraeg.
Ein prif weithgaredd yw cyfarfod i addoli ar Zoom, gan rannu ein distawrwydd, ac yn aml ymateb i gerdd, ddelwedd neu hanes sydd wedi ei rannu drwy'r cyfrwng.
Mae croeso i bawb o bob man, boed ymwelydd am y tro cynta, neu Gyfaill profiadol o gyfarfod pell.
I ymuno, danfonwch neges ebost gyda'ch manylion ac mi ddanfonwn ni'r ddolen i chi.
Pwllheli + Y Bala
May am Gyfarfod Crynwyr Pwllheli a'r Bala, sydd yn trefnu'r CC. Mwy yma ...
Tanysgrifio
Tanysgrifiwch i dderbyn y ddolen ar gyfer y cyfarfod.
Mwy yma ...
Crynwyr + Cymru
Beth yw'r Crynwyr? a syniad am sefyllfa Crynwriaeth yng Nghymru heddiw.
English
This is an informal online opportunity to worship and share in Welsh. More ...